Mae Cofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru yn gweithio gyda Fforwm Hil Cymru i annog rhoddwyr bôn-gelloedd gwirfoddol o gymunedau Du, Asiaidd, Ethnigrwydd Cymysg/Lluosog a Lleiafrifoedd Ethnig i ymuno â'n brwydr yn erbyn canser y gwaed, a rhoi ail gyfle ar fywyd i gleifion ar draws y byd.
Mae gan Gofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru banel o roddwyr gwirfoddol sydd wedi cytuno i roi eu bôn-gelloedd i gleifion sydd angen trawsblaniad bôn-gelloedd.
Mae trawsblaniadau bôn-gelloedd yn cael eu defnyddio i drin canserau'r gwaed fel lewcemia, lymffoma, myeloma ac anemia aplastig difrifol, ac i ddarparu opsiwn triniaeth ar gyfer rhai anhwylderau gyda’r system imiwnedd ac anhwylderau metabolig. Gall trawsblaniad bôn-gelloedd fod yn ddewis olaf claf i geisio gwella o’u salwch.
Yn y Deyrnas Unedig, mae tua 2,000 o drawsblaniadau bôn-gelloedd yn digwydd bob blwyddyn, ac mae'r ffigwr hwn dros 50,000 ar draws y byd. Dim ond 25% o gleifion sydd angen trawsblaniad fydd yn dod o hyd i roddwr addas sydd yn cydweddu â nhw o fewn eu teulu eu hunain. Pan nad yw claf yn gallu dod o hyd i roddwr sy’n cydweddu â nhw o fewn eu teulu, gellir chwilio drwy gofrestri ar draws y byd am roddwr sydd ddim yn perthyn.